Bywgraffiad

Ganwyd Christine Kinsey ym Mhont-y-moel, Sir Fynwy, Cymru. Ganwyd Christine Kinsey ym Mhont-y-moel, Sir Fynwy, Cymru. Roedd hi’n Gyd-Sylfaenydd, yn Gyfarwyddwr Artistig ac yn Weinyddwr Canolfan Celfyddydau Chapter, Caerdydd; yn Gyd-sylfaenydd Cymdeithas Arlunwyr a Dylunwyr yng Nghymru; ac yn Gynghorydd Artistig Cyngor Dinas Caerdydd ar gyfer y broses o ailddatblygu Canol Dinas Caerdydd rhwng 1968 a 1976. Gweithiodd fel arlunydd ac athrawes gyda phlant difreintiedig ar Ynys Iseldiraidd / Ffrengig St Maarten a Nevis yn y Caribî rhwng 1976 a 1980. Ers iddi ddychwelyd i Gymru ym 1981, mae hi wedi byw a gweithio yn Sir Gaerfyrddin ac yn Sir Benfro.

Mae Christine wedi cynnal saith arddangosfa deithiol unigol genedlaethol a chwe arddangosfa deithiol unigol ryngwladol. Cynrychiolir ei gwaith mewn casgliadau cenedlaethol gan gynnwys Amgueddfa Victoria ac Albert, Llundain; Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth; Oriel Gelf Glynn Vivian, Abertawe; Amgueddfa ac Oriel Gelf Casnewydd, Casnewydd, Gwent; Cymdeithas Celfyddyd Gyfoes Cymru, Amgueddfa Genedlaethol Cymru, Caerdydd / Amgueddfa Caerfyrddin, Parc yr Esgob, Sir Gaerfyrddin; Amgueddfa ac Oriel Gelf Casnewydd, Casnewydd, Gwent; a Phrifysgol Caer-wynt, Hampshire. Mae ganddi waith mewn casgliadau preifat yng Ngwlad Belg, y Caribî, Catalonia, Iwerddon, Lloegr, Lithwania, Yr Alban, Y Swistir ac UDA.

Mae Christine wedi ennill gwobrau niferus gan gynnwys Prif Grant Cynhyrchu a Datblygu Cyngor Celfyddydau Cymru. Mae hi wedi ysgogi, curadu a threfnu arddangosfeydd a gwyliau sydd wedi cynnwys gwaith gan arlunwyr ac awduron gan gynnwys META, arddangosfa deithiol a oedd yn cynnwys gwaith ar y cyd gan feirdd ac arlunwyr, a ddangoswyd mewn pum lleoliad gan gynnwys Oriel Arka, Vilnius, Lithwania ar y cyd â Gŵyl Barddoniaeth y Gwanwyn. Dangoswyd paentiadau o’i chyfres ‘Llais / Voice’ yn y Tŷ Opera, Vilnius, Lithwania, ar y cyd ag opera ‘Lokys’ gan y cyfansoddwr Bronius Kutavičius ac yn Oriel Sofa, Druskininkai, Lithwania, mewn partneriaeth â Menna Elfyn yn ystod Gŵyl Celfyddydau Cwymp Barddonol. Roedd hi hefyd wedi curadu a threfnu Gŵyl ac Arddangosfa Canmlwyddiant R.S. Thomas, Oriel Plas Glyn y Weddw, Gwynedd. Cafodd ei gwaith ei gynnwys yn arddangosfa Kinsey, Roche a Webster yn Centre Cultural, Terrassa, Barcelona, Catalonia, yn ogystal ag arddangosfeydd grŵp yn rhyngwladol.

Dyfarnwyd rôl Cymrawd Anrhydeddus iddi gan Brifysgol Metropolitan, Abertawe a Chymrawd Ymchwil Gwadd yn y Fforwm Celf a Diwinyddiaeth Ffeministaidd, Y Sefydliad Partneriaethau Diwinyddol, Prifysgol Caer-wynt, Caer-wynt.

Mae Christine Kinsey wedi cyhoeddi tri llyfr;Imaging the Imagination – An exploration of the relationship between the image and the word in the art of Wales, yr oedd wedi ei ysgogi a’i gyd-olygu gyda Dr Ceridwen Lloyd-Morgan ac a gyhoeddwyd gan Wasg Gomer yn 2005. Mae’n guradur ac yn olygyddHON Artistiaid Benywaidd yng Nghymru / Women Artists in Wales; llyfr hollol ddwyieithog (Cymraeg a Saesneg) a gyhoeddwyd gan Sefydliad H’mm yn 2022. Cyhoeddwyd ei llyfrTruth, Lies & Alibis – Encounters in Images and Words by Christine Kinsey gan Sefydliad H’mm yn 2023 (gweler y dudalen Gwaith a Gyhoeddwyd) a chyhoeddwyd ei gwaith ysgrifennu mewn papurau newydd, cylchgronau a chyfnodolion.

Scroll to Top